Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 18 Hydref
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3998
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y broses gaffael i weithredu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu am fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau? EAQ(5)0055(EI)
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Dechreuodd yr eitem am 14.44
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Dechreuodd yr eitem am 16.21
Dechreuodd yr eitem am 17.16
Dechreuodd yr eitem am 17.54
NDM 6117 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM 6117 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
2.Yn nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
3.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg.
4.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.
Derbyniwyd cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 19 Hydref 2016